Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

Studio Featured Image

Cefyn Burgess, Stiwdio 1

Stiwdio Ar-safle.

Wedi’m geni a magu ym mhentref chwarel lechi Bethesda, Gogledd Cymru, graddiais o Fanceinion gyda BA (Anrhydedd) mewn tecstilau gweuedig cyn ennill gradd MA o’r Coleg Celf Brenhinol mewn ffabrigau gwead jacquard.

Yn ystod y 1980au hwyr roeddwn yn wehydd preswyl cyntaf Amgueddfa Sidan Paradise Mill, Macclesfield, roddodd gyfle i mi ddatblygu fy nghasgliad gwreiddiol o ffabrigau sidan cain wedi’u gwehyddu â llaw, oedd yn cynnwys dyluniad troellog, sydd dal yn
cael ei wehyddu ac yn boblogaidd heddiw.

O fy siop stiwdio, ’rwy’n dylunio ffabrigau gwead jacquard i bwrpas a nwyddau ansawdd uchel i’r cartref mewn ffibrau naturiol, yn cynnwys casgliad o gwiltiau, carthenni a chlustogau ar gyfer y farchnad breifat a chytundebol.

www.cefynburgess.co.uk

Cysylltwch â’r gwneuthurwyr yn unigol ar gyfer eu horiau agor.